Our network of global and local partners (WEL)

Submitted by creo_editor on Tue, 03/16/2021 - 17:41
Banner Image
Image
Croeso
Banner Title

Our network of

global and local

partners

Chapter page paragraphs
Title
English content here
Content

-

Two Column Text Item
Title
FIFA
Content

Sefydlwyd y Fédération Internationale de Football Association ym 1904. Mae’n seiliedig yn Zurich a chaiff ei lywodraethu gan gyfraith y Swistir. Gyda 211 o aelod-gymdeithasau, ei nod, fel sydd wedi’i nodi yn ei Statudau, yw gwella pêl-droed yn barhaus.

Title
UEFA
Content

Mae gan Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewrop 55 o aelod-gymdeithasau cenedlaethol, a dyma’r corff gweinyddol ar gyfer pêl-droed yn Ewrop a rhan o Asia. Mae UEFA yn un o chwe chonffederasiwn cyfandirol sy’n rhan o FIFA, corff llywodraethu pêl-droed y byd.

Title
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Content

Bu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhan greiddiol i bêl-droed ers 1876, a dyma’r drydedd gymdeithas hynaf yn y byd. Mae ganddi ddyletswydd i ofalu am bêl-droed yng Nghymru, ynghyd â hyrwyddo a datblygu’r gamp, ac mae’n aelod o FIFA ac UEFA. Y mae hefyd yn un o’r pum corff sy’n aelodau o IFAB, gwarchodwyr ‘Deddfau’r Gêm’.

Title
Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Content

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1996, ac mae’n elusen gofrestredig sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gyflawni gweledigaeth, nodau a gweithredoedd pêl-droed Cymru. Mae amcanion yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys annog rhagor o bobl i chwarae pêl-droed, nodi a datblygu chwaraewyr ifanc dawnus, a datblygu rhagor o hyfforddwyr a hyfforddwyr mwy cymwysedig.

Title
Cynghreiriau
Content

Mae’r cynghreiriau yn cynnwys sefydliadau sy’n trefnu a chynnal naill ai cystadleuaeth gynghrair dymhorol neu gyfres o gynghreiriau i glybiau. 

Title
Cymdeithas Ardal
Content

Mae Cymdeithas Ardal yn gymdeithas bêl-droed ranbarthol sy’n gyfrifol am drefnu cystadlaethau a hyrwyddo, meithrin a gwella’r gamp. Mae chwech o Gymdeithasau Ardal yng Nghymru ar hyn o bryd, sef: Cymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru; Cymdeithas Bêl-droed Sir Gwent; Cymdeithas Bêl-droed Gogledd-ddwyrain Cymru; Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru; Cymdeithas Bêl-droed De Cymru; a Chymdeithas Bêl-droed Gorllewin Cymru.

Title
Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru
Content

Ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru ym 1911 i annog datblygiad disgyblion drwy gyfrwng pêl-droed. Mae’n trefnu cystadlaethau i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal â phêl-droed ryngwladol ar lefel dan 15, 16 a 18. Mae hefyd yn cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Ymddiriedolaeth i nodi a datblygu chwaraewyr.

Title
Chwaraeon Cymru
Content

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Chwaraeon Cymru yw’r prif gorff sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar chwaraeon ac mae’n cynorthwyo i gyflawni ei blaenoriaethau strategol drwy adroddiad Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru a Strategaeth Chwaraeon Cymru.

Title
Partneriaid masnachol
Content

Mae cydweithio â’r sector masnachol yn darparu ffrwd o incwm yn ogystal ag arbenigedd, gweithgarwch penodol a gwasanaethau eraill er mwyn cefnogi’r gêm yng Nghymru.

Title
Partneriaid cymdeithasol a diwylliannol
Content

Mae ymwneud â mentrau cymdeithasol a diwylliannol nid yn unig yn rhoi llwyfan i ni wella ein hapêl i’r sector masnachol, ond y mae hefyd yn caniatáu i ni ymgysylltu’n well â’n cynulleidfaoedd a chyfathrebu ein negeseuon allweddol i gyfoethogi pêl-droed yng Nghymru.

Banner Title Prefix

CHAPTER FIVE: