Rydym yn falch o gyflwyno Ein Cymru – y weledigaeth a’r cynllun strategol newydd ar gyfer pêl-droed yng Nghymru. Bydd y cynllun chwe blynedd cyffrous ac uchelgeisiol hwn yn llywio ein gwaith hyd at 2026, pan fydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n dathlu canrif a hanner ers ein sefydlu.
Cafwyd llwyddiant sylweddol ym myd pêl-droed Cymru dros y cylch strategol diwethaf, ond mae cymaint mwy i’w gyflawni. Mae ein gweledigaeth yn syml. Rydym eisiau bod yn genedl bêl-droed sydd ar flaen y gad ar lefel fyd-eang ac ar lefel leol. Bwriadwn sicrhau mai pêl-droed yw’r gamp fwyaf cynhwysol, hygyrch a llwyddiannus yng Nghymru, gan gystadlu’n gyson â’r goreuon yn y byd. Dylai pob agwedd ar y profiad pêl-droed fod yn un gadarnhaol, yn destun mwynhad yn lleol ac yn genedlaethol, ac yn creu balchder yn ein gwlad.
Bydd cyflawni hyn yn galw am ffocws o’r newydd ar ein hamcanion strategol, sef conglfeini’r gêm. Rydym yn cydnabod bod angen gwella’n barhaus. Wrth geisio rhagoriaeth, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â’n haelodau a’n rhanddeiliaid i hyrwyddo a datblygu pêl-droed yng Nghymru a thu hwnt. Mae tyfu’r gêm yn golygu darparu profiad hyblyg, cynhwysol a deniadol, a chydnabod lle mae gennym le i wella o hyd. Adnewyddwn ein blaenoriaeth i sicrhau bod pêl-droed i ferched yn parhau i ehangu a llwyddo. Yr un mor bwysig yw sicrhau bod pêl-droed yn gamp i bob ethnigrwydd, gallu a chymuned.
Ein pobl yw’r peth pwysicaf. Mae hyn yn golygu canolbwyntio mwy ar wrando ar ein cyfranogwyr ac ymestyn allan at gynulleidfaoedd newydd. Bydd datblygu rhaglenni dysgu ac addysgu o lawr gwlad hyd at y lefel uchaf yn ein helpu i fod yn weithlu cydnerth, perthnasol a chynrychioliadol.
Ymfalchïwn yn y sylfeini hyn ac ymdrechwn yn barhaus i wella a thyfu pob lefel o’r gêm. Bydd cyflawni’r amcanion hyn erbyn 2026 yn ein rhoi ar y llwybr i wireddu ein gweledigaeth hirdymor i bêl-droed yng Nghymru: ansawdd a llwyddiant lleol a byd-eang.
Steve Williams
Llywydd
Cymdeithas Bêl-droed Cymru