Rydym wedi bod yn cydweithio i adolygu strategaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer pêl-droed yng Nghymru cyn datblygu cynllun strategol chwe blynedd newydd.
Er bod themâu ac amcanion sy’n parhau’n gyson o’r cylch strategol blaenorol, rydym wedi archwilio ffyrdd newydd a gwahanol o weithio wrth i ni gynllunio at bennod newydd ar gyfer pêl-droed yng Nghymru.
Rydym wedi gwrando ar y sawl sy’n chwarae yn ogystal â’r sawl sy’n gwneud y cyfan yn bosib drwy ddulliau cymysg gan gynnwys ymgynghoriad helaeth. Un sy’n drylwyr, yn canolbwyntio ar weithredu, ac yn gyfforddus â dadl, craffu a hunan-fyfyrio.
Nid oes dim cystal â chynnwys ein hamrywiaeth eang o randdeiliaid a’u mewnbwn, gan gynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr, rheolwyr, cefnogwyr, clybiau, cynghreiriau, swyddogion, gwirfoddolwyr, pwyllgorau, staff, athrawon, rhieni, newyddiadurwyr, noddwyr a sefydliadau partner. Yn ogystal â gweithio gyda’r teulu pêl-droed, rydym wedi ceisio deall safbwyntiau drwy gydol y broses drwy ystyried arbenigedd a phrofiad cynrychiolwyr o fyd busnes a byd y campau yng Nghymru.
Cawsom y cyfle i brofi ein dyheadau a’n ffyrdd o weithio drwy gydweithio’n fuddiol â menter Ffederasiynau Pêl-droed y Dyfodol, UEFA. Rydym hefyd wedi adeiladu ar wahanol adolygiadau manwl a gynhaliwyd yn ystod cyfnod datblygu’r strategaeth, fel pêl-droed bach, ymchwil i farn rhanddeiliaid, a strwythur gêm y merched.
Gobeithiwn fod symlrwydd a ffocws yn ein galluogi i fwrw ymlaen â’n gweledigaeth ar gyfer pêl-droed yng Nghymru.