Ein diben

Submitted by creo_editor on Iau, 05/20/2021 - 10:54
Banner Image
Delwedd
Sitting
Banner Title

Ein diben

Chapter page paragraphs
Text

Arweinwyr sy’n ceisio rhagoriaeth – ar y cae ac oddi arno – yn partneru â’n haelodau a’n rhanddeiliaid er mwyn hyrwyddo, datblygu a gofalu am bêl-droed yng Nghymru a thu hwnt.

Title
Ein diben
Content

Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw un o’r tair cymdeithas hynaf yn y byd. Fe’i sefydlwyd ym 1876 i feithrin, arwain a hyrwyddo budd pêl-droed yng Nghymru.

Fel aelod o FIFA ac UEFA, rydym wedi ymrwymo i feithrin y gêm yng ngoleuni chwarae teg yn fyd-eang, ac rydym yn warcheidwaid gweithredol o ‘Ddeddfau’r Gêm’ ynghyd â phedwar corff arall drwy IFAB.

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pêl-droed yn creu profiadau cadarnhaol a chynhwysol a gaiff eu mwynhau’n lleol a chenedlaethol, a hyrwyddo’r gamp yng Nghymru drwy bwysleisio ei manteision i bawb ym mhobman.

Gwyddom fod angen datblygu a gwella’n barhaus, a rhaid i bêl-droed Cymru beidio ag aros ar ymyl y cae. Drwy wrando a gweithio gydag aelodau a rhanddeiliaid ein teulu pêl-droed, rydym yn ymdrechu i gynnig darpariaeth gynhwysol a hygyrch sy’n creu cyfleoedd i bawb ar bob lefel o’r gêm.

Drwy harneisio nerth pêl-droed a’r cyfan sydd gan y gamp i’w gynnig, byddwn yn gwneud gwahaniaeth i bob aelod, rhanddeiliad, cefnogwr a chymuned ledled Cymru a thu hwnt.

Quote Text

“Y Wal Goch rydym ni’n eu galw nhw. Pan welwn ni eu hangerdd yn y stadiwm, y miloedd yn eu coch, ein lliw ni, maen nhw’n ein hysbrydoli ni. Rydym eisiau iddyn nhw ymfalchio ynom ni.”

Author Name
Gareth Bale
Banner Title Prefix

PENNOD PEDWAR: