Galluogwyr

Submitted by creo_editor on Llun, 05/24/2021 - 09:58
Banner Image
Delwedd
Dragons
Banner Title

Galluogwyr

Chapter page paragraphs
Text

Yn ystod y cylch strategol newydd hwn, mae’n hanfodol ein bod yn datblygu i ganolbwyntio ein hegni a’n hadnoddau’n effeithiol tra’n adeiladu ar ein cryfderau sefydliadol presennol. Rydym wedi nodi pump o alluogwyr strategol allweddol i gynorthwyo ein strategaeth.

I sicrhau llwyddiant cynaliadwy, rydym wedi ymrwymo i gofleidio a datblygu’r galluogwyr canlynol:

Two Column Text Item
Title
Buddsoddi
Content

Byddwn yn buddsoddi amser, arian ac arbenigedd i ddatblygu a thyfu’r gêm yng Nghymru drwy weithgareddau sy’n cydweddu â’r strategaeth. Byddwn yn sianeli’r buddsoddiad hwn i dargedu meysydd twf ac yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael i sicrhau llwyddiant hirdymor a sefydlogrwydd y gêm – ac yn cyflawni hyd yn oed mwy yn y dyfodol.

Title
Dealltwriaeth
Content

Byddwn yn ymgorffori rhaglen o ymchwil a dealltwriaeth yn y broses o gynllunio busnes er mwyn llywio a gwerthuso mentrau allweddol. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu perthnasoedd cryfach â’r rhai sy’n ymwneud â’r gêm yng Nghymru a’r rhai nad ydynt eto’n ymwneud â hi, gan sicrhau bod ein gwaith yn effeithiol a hirhoedlog. Rydym eisiau parhau i ddysgu, deall ac archwilio.

Title
Delwedd
Content

Byddwn yn cyfoethogi a chryfhau delwedd pêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wrth i ni wella ein gweithgareddau yn ddomestig a rhyngwladol. Rydym eisiau rhoi hwb i’r angerdd a deimlwn fel cenedl tuag at y gêm yng Nghymru, gan ein bod yn deall bod y ddelwedd sydd gan ein rhanddeiliaid yn dylanwadu ar eu cefnogaeth. Rydym yn ymdrechu i greu gêm fwy cynhwysol a byddwn yn diffinio dulliau cyson o ran defnyddio data, ymchwil a dealltwriaeth i fesur delwedd y sefydliad yn rheolaidd.

Title
Ymgysylltu
Content

Byddwn yn ymgysylltu â chydweithio â phartneriaid lleol a rhyngwladol ar bob lefel o’r gêm i sicrhau ein siawns fwyaf o lwyddiant. Ymrwymwn i eirioli dros newid cadarnhaol a defnyddio ein dylanwad i herio’r status quo a chreu cyfleoedd gwell a thecach i unigolion, cymunedau a’r gymdeithas yn gyffredinol. Croesawn atebion digidol a ffyrdd gwahanol o weithio i greu cyfleoedd newydd ac ymgysylltu’n well â chynulleidfaoedd.

Title
Systemau
Content

Nid gwella perfformiad yn y tymor byr yn unig a wnawn; byddwn yn gosod sylfeini ar gyfer twf cyson a chadarn yn y blynyddoedd sydd i ddod. Gan harneisio dealltwriaeth a thechnoleg, byddwn yn cynyddu a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd, ac yn galluogi gwell llifoedd gwaith a phenderfyniadau busnes. Gweithiwn tuag at ddatblygu diwylliant cryf o weithredu mewn ffordd glyfar, arloesol ac ymatebol.

Banner Title Prefix

PENNOD TRI: