Gorau Chwarae Cyd Chwarae

Submitted by creo on Iau, 05/20/2021 - 09:49
Banner Image
Delwedd
Fans
Banner Title

Gorau Chwarae Cyd Chwarae

Chapter page paragraphs
Title
Gorau Chwarae Cyd Chwarae
Content

Ymdrechwn i wthio’r ffiniau ac ehangu ein gorwelion i greu gwaddol parhaol i bêl-droed yng Nghymru, gan ddwyn cenedl gyfan ynghyd i ddathlu’r gêm.

Ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Drwy gydweithio yn unig y mae modd gwireddu ein gweledigaeth. Yn ein hymdrechion i gyrraedd ein nodau, rhaid i ni gyfuno ein hangerdd a’n dyfeisgarwch ac ymdrechu i fod yn gefnogol, empathig ac, yn fwy na dim, yn gydweithredol.

Gwyddom y gallwn gyflawni cymaint mwy gyda’n gilydd drwy gydweithio â chlybiau, cynghreiriau a sefydliadau, gan fedi ffrwyth ein sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau cyfunol.

Yn fwy nag erioed, mae angen i ni archwilio a datblygu ffyrdd newydd o weithio er mwyn ennyn cefnogaeth nid yn unig y rhai sy’n ymwneud â phêl-droed yn draddodiadol, ond partneriaid newydd a chyffrous hefyd.

Bydd y dulliau aml-bartner hyn yn ein galluogi i gryfhau a thyfu’r gêm i bawb, a gweithio tuag at gyflawni ein gweledigaeth o Gymru leol fyd-eang.

Ni fu’r syniad hwn erioed mor bwerus, nac angenrheidiol.

Banner Title Prefix

PENNOD PEDWAR: