Sefydlwyd y Fédération Internationale de Football Association ym 1904. Mae’n seiliedig yn Zurich a chaiff ei lywodraethu gan gyfraith y Swistir. Gyda 211 o aelod-gymdeithasau, ei nod, fel sydd wedi’i nodi yn ei Statudau, yw gwella pêl-droed yn barhaus.
Mae gan Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewrop 55 o aelod-gymdeithasau cenedlaethol, a dyma’r corff gweinyddol ar gyfer pêl-droed yn Ewrop a rhan o Asia. Mae UEFA yn un o chwe chonffederasiwn cyfandirol sy’n rhan o FIFA, corff llywodraethu pêl-droed y byd.
Bu Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhan greiddiol i bêl-droed ers 1876, a dyma’r drydedd gymdeithas hynaf yn y byd. Mae ganddi ddyletswydd i ofalu am bêl-droed yng Nghymru, ynghyd â hyrwyddo a datblygu’r gamp, ac mae’n aelod o FIFA ac UEFA. Y mae hefyd yn un o’r pum corff sy’n aelodau o IFAB, gwarchodwyr ‘Deddfau’r Gêm’.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1996, ac mae’n elusen gofrestredig sy’n gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i gyflawni gweledigaeth, nodau a gweithredoedd pêl-droed Cymru.
Mae’r cynghreiriau yn cynnwys sefydliadau sy’n trefnu a chynnal naill ai cystadleuaeth gynghrair dymhorol neu gyfres o gynghreiriau i glybiau.
Mae Cymdeithas Ardal yn gymdeithas bêl-droed ranbarthol sy’n gyfrifol am drefnu cystadlaethau a hyrwyddo, meithrin a gwella’r gamp. Mae chwech o Gymdeithasau Ardal yng Nghymru ar hyn o bryd, sef: Cymdeithas Bêl-droed Canolbarth Cymru; Cymdeithas Bêl-droed Sir Gwent; Cymdeithas Bêl-droed Gogledd-ddwyrain Cymru; Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru; Cymdeithas Bêl-droed De Cymru; a Chymdeithas Bêl-droed Gorllewin Cymru.
Ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Cymru ym 1911 i annog datblygiad disgyblion drwy gyfrwng pêl-droed. Mae’n trefnu cystadlaethau i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal â phêl-droed ryngwladol.
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru i annog datblygiad polisïau yn y dyfodol sy’n galluogi i gyflawni ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau cyffredin yn effeithiol.
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Chwaraeon Cymru yw’r corff allweddol sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar chwaraeon ac mae’n cynorthwyo i gyflawni ei blaenoriaethau strategol drwy adroddiad Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru a Strategaeth Chwaraeon Cymru.
Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn chwarae rôl ganolog wrth lywodraethu Cymru, gan ddarparu’r arweiniad lleol a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar eu cymunedau. Mae eu rhan yn cynorthwyo clybiau cryfach, cynnal a datblygu gwell cyfleusterau, a darparu gwasanaethau allweddol eraill, o arwyddocâd mawr i bêl-droed a Chymru.
Y Football Fountation yw elusen Uwch Gynghrair Lloegr, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’n helpu cymunedau i wella eu cyfleusterau pêl-droed lleol drwy grantiau. Mae’n dod â phartneriaid pêl-droed allweddol ynghyd i hybu gweledigaeth gyffredin, sef gwella cyfleusterau pêl-droed ar draws Cymru a Lloegr. Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ceisio cryfhau’r bartneriaeth hon drwy ei chynllun i fuddsoddi mewn cyfleusterau.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Byddwn yn gweithio gyda’r Comisiynydd i sicrhau ein bod yn cyfrannu at Gymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.
Byddwn yn gwella’r ddarpariaeth ac yn gwneud y defnydd gorau o gyfleusterau trwy weithio gyda phartneriaid o’r sector addysg, gan gynnwys ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch.
Mae’r cyfryngau yng Nghymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, ac yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo pêl-droed a diwylliant Cymru.
Mae cydweithio â’r sector masnachol yn darparu ffrwd o incwm yn ogystal ag arbenigedd, gweithgarwch penodol a gwasanaethau eraill er mwyn cefnogi’r gêm yng Nghymru.
Mae ymwneud â mentrau cymdeithasol a diwylliannol nid yn unig yn rhoi llwyfan i ni wella ein hapêl i’r sector masnachol, ond y mae hefyd yn caniatáu i ni ymgysylltu’n well â’n cynulleidfaoedd a chyfathrebu ein negeseuon allweddol i gyfoethogi pêl-droed yng Nghymru.