Mae’r cynllun strategol hwn yn farciwr pwysig i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’n cyfeiriad i’r dyfodol, ac rydym yn rhoi'r sylw a’r adnoddau sydd eu hangen i wireddu ein gweledigaeth.
Bydd datblygu cynllun gweithredu llawn chwe blynedd yn egluro sut byddwn yn dod â’r cynllun yn fyw. Er mwyn iddo fod yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru adolygu’r holl nodau ac uchelgeisiau yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn parhau’n berthnasol ac yn diwallu anghenion pêl-droed mewn byd sy’n newid o hyd. Byddwn hefyd yn monitro a chyfathrebu ein cynnydd yn erbyn y cynllun strategol drwy adroddiadau blynyddol.
Er eu bod yn heriol, mae ein dyheadau hefyd yn gyflawnadwy, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym ymrwymo i ddod â’n gweledigaeth yn fyw.