Daw Ein Cymru ar adeg o gyfle enfawr i bêl-droed yng Nghymru. Bydd y strategaeth uchelgeisiol, fyw hon yn ein galluogi i fod yn sionc a hyblyg mewn byd sy’n newid yn gyflym, fel y gallwn dyfu’r gêm o lawr gwlad yr holl ffordd hyd at bêl-droed ryngwladol o’r safon uchaf.
Bydd tri gwerth allweddol yn sail i bopeth a wnawn: rhagoriaeth, teulu a pharch. Byddant yn ein llywio ym mhob agwedd ar ein gwaith. Crëwn ddiwylliant o berfformio ar y lefel uchaf ar y cae ac oddi ar y cae sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd bob dydd. Rydym yn adeiladu teulu pêl-droed sy’n amrywiol, medrus a chroesawgar, ac sy’n hybu rhagoriaeth, uniondeb, cynwysoldeb a chwarae teg.
Denwn fwy o fuddsoddiad ar ffurf arian, amser a phobl, a’i ganolbwyntio ar feysydd twf drwy ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein hamcanion.
Cydweithio â phartneriaid gwych yn lleol ac yn fyd-eang yw’r unig ffordd y gallwn fanteisio’n llawn ar y cyfle sydd o’n blaenau.
Daeth y teulu chwaraeon at ei gilydd yn ystod cyfnod heriol Covid-19 ac rydym yn awyddus yn awr i adeiladu ar y berthynas gyda sefydliadau megis Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru er mwyn ymestyn cyrhaeddiad a darparu gwell canlyniadau gyda’n gilydd ar gyfer Cymru gyfan.
Gan ymdrechu i wneud yn siŵr bod pêl-droed yn cyflawni’i photensial ym mhob cymuned yng Nghymru, mae angen i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod yn adweithiol a rhagweithiol a meddu ar strwythurau a systemau cenedlaethol a rhanbarthol modern. Mae gwaith eisoes ar y gweill i gynyddu a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd i alluogi gwell llif gwaith a phenderfyniadau busnes.
Bydd cyflawni’r strategaeth hon yn llwyddiannus yn cryfhau’r sylfeini ar gyfer twf pellach yn y blynyddoedd i ddod. Rydym yn falch o’n gêm, ac rydym eisiau pwysleisio ei manteision i bawb ym mhobman.
Gan ymfalchïo yn yr hyn a gyflawnwyd gennym a chan fod yn ddigon penderfynol i gyfoethogi’r gêm yng Nghymru ymhellach, galwn ar ein teulu pêl-droed – yma yng Nghymru a thramor – i ymuno â ni ar daith i fentro’n fawr a breuddwydio’n fwy.
Noel Mooney
Prif Weithredwr
Cymdeithas Bêl-droed Cymru